Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/10/2024 i'w hateb ar 23/10/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o pa un ai ydi'r cyngor sydd yn cael ei roi i awdurdodau cynllunio ynghylch datblygu gofodol yn addas i bwrpas?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd yng Ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynigion ar gyfer cynllun storio tanfor i ddal carbon yn Sir y Fflint?
Beth yw meini prawf cyffredinol y Llywodraeth ar gyfer cymeradwyo neu wrthod datblygiadau ffermydd solar mawr?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â chyrff chwaraeon ynghylch allgymorth cymunedol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r achos busnes dros brosiectau dal carbon yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at y nod o Gymru yn dod yn genedl cyflog byw?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad datblygu economaidd ym Mlaenau Gwent?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y byddai cynnydd gan Lywodraeth y DU yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar golli swyddi yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i gefnogi swyddi yn y diwydiant dur?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Chyngor Caerdydd i sicrhau bod digwyddiadau mawr yn y brifddinas yn hygyrch i bawb?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau i fynd i'r afael â'r heriau y gallai seilwaith ynni newydd eu cyflwyno i'r amgylchedd leol a'r economi?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw gofal sylfaenol yn ddarostyngedig i'r ddeddf gofal gwrthgyfartal?
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod cymorth ar gael i fyfyrwyr prifysgol â meddyliau hunanladdol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth gofal iechyd cymunedol yn Nyffryn Clwyd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau i gleifion canser?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am brofion canser y prostad i ddynion dros 50 oed?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cyn-filwyr y lluoedd arfog sy'n byw yng Nghymru yn cael y gofal iechyd y mae arnynt ei angen?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflwyno tystysgrifau colli baban?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros gastroenteroleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut y gall gweithwyr y GIG awgrymu gwelliannau yn y gweithle?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu â chwmnïau Cymreig sy'n datblygu technoleg feddygol arloesol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau lefelau digonol o gyllid cyfalaf mewn gofal iechyd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr amseroedd aros presennol ar gyfer diagnosis ADHD yng Ngorllewin De Cymru?