Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/10/2019 i'w hateb ar 23/10/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Addysg
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi darpariaeth iechyd meddwl mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebau ysgolion uwchradd yn Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid addysgol fesul disgybl yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hysbysu ac addysgu pobl ifanc am ddigartrefedd drwy'r system addysg?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch sicrhau bod cyrff addysg yng Nghymru yn cael digon o arian, cyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru?
Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y canllawiau newydd ar siarad am hunanladdiad yn cael eu rhoi ar waith ym mhob ysgol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddysgu dinasyddiaeth ryngwladol mewn ysgolion?
Pa gymorth sydd ar gael ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi lles meddyliol o fewn y sector addysg?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gyngor a ddarperir i awdurdodau lleol ynghylch defnyddio athrawon cyflenwi o asiantaethau?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg cydberthynas a rhywioldeb?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi lles emosiynol plant a phobl ifanc mewn ysgolion?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros yn adrannau achosion brys ysbytai Cymru?
Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn gallu cael triniaethau newydd ar gyfer canser?
Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Carers Wales, 'Dilyn y Ddeddf'?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesi digidol o fewn gwasanaethau iechyd a gofal?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hygyrchedd cyfleusterau ar gyfer y rhai ag anableddau corfforol ym Mhowys?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o glefyd Parkinson?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o ymgynghorwyr allanol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau meddygon teulu yn Rhondda Cynon Taf?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cleifion sy'n gaeth i'r tŷ?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob nyrs yn cael y datblygiad proffesiynol parhaus sydd ei angen arnynt?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gymdeithas Anemia Dinistriol ynghylch cynigion i wella diagnosis a thriniaeth?