Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/09/2025 i'w hateb ar 23/09/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin â phwysau chwyddiant yn ei chyllideb ar gyfer 2026-27?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag achosion o dipio anghyfreithlon yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygu economaidd ym Mlaenau Gwent?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y gwelyau mewn cartrefi gofal?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ragolygon economaidd busnesau bach a chanolig yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod heddluoedd Cymru yn adlewyrchu cymunedau Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â rheoleiddio bwyd nad yw'n iach?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut mae bathodynnau glas yn cael eu dyrannu?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mudiadau gwirfoddol sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud Cymru'n genedl o weithgarwch corfforol a chwaraeon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag eithafiaeth dde eithafol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?