Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/09/2020 i'w hateb ar 23/09/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb hydref 2020?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lywodraethiant prosiectau cyhoeddus a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynigion Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid i gwblhau ffordd liniaru'r M4?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw gyllid canlyniadol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael o ganlyniad i gronfa Llywodraeth y DU ar gyfer adfer adeiladau sydd â deunydd cladin nad yw'n alwminiwm?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am refeniw o'r dreth trafodiadau tir?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran ail-lunio caffael cyhoeddus er mwyn cryfhau'r economi sylfaenol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ychwanegol i gefnogi cyllid llywodraeth leol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y pwysau ariannol ar awdurdodau lleol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch am bolisi Llywodraeth Cymru o ran y dreth trafodiadau tir?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch dyraniadau cyllideb ychwanegol ar gyfer y portffolio iechyd oherwydd COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y dirwyon y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn atebol amdanynt dros y 18 mis diwethaf?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon ar lawr gwlad i'w helpu i gysylltu â chymunedau?
Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i helpu chwaraeon hamdden yng Nghymru dros gyfnod y gaeaf?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farchnata a hyrwyddo canolbarth Cymru fel cyrchfan i dwristiaid?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i dwristiaeth yng ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch effaith ail gartrefi ar yr iaith Gymraeg?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau datblygu rhyngwladol presennol Llywodraeth Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi twristiaeth dros y 12 mis nesaf?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru â'r diwydiant teithio ynghylch effaith cyfyngiadau COVID-19 ar dwristiaeth yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi sefydliadau treftadaeth ac atyniadau hanesyddol yng Nghymru y mae'r achosion o'r coronafeirws wedi effeithio arnynt?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r manteision i Gymru sy'n deillio o gytundebau masnach Llywodraeth y DU â gwledydd y gymanwlad?
Comisiwn y Senedd
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am statws y Gymraeg yng ngwaith y Senedd yng ngoleuni dyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y materion ymarferol sy'n gysylltiedig â chynnal cyfarfodydd pwyllgor hybrid yn Senedd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael ar sut i hysbysu etholwyr am etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021 er gwaethaf cyfyngiadau coronafeirws?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am sut y defnyddir y gyllideb a ddyrennir ar gyfer dodrefn a ffitiadau?