Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/06/2021 i'w hateb ar 23/06/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa adnoddau sydd wedi'u dyrannu yng nghyllideb 2021-22 Llywodraeth Cymru i helpu pobl â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru?
Pa egwyddorion y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dilyn wrth ddatblygu polisi treth yng Nghymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn mabwysiadu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy fel system bleidleisio yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn dod i rym?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ariannol COVID-19 ar awdurdodau lleol yng Nghymru?
Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i gymorth busnes yng Nghymru wrth ddrafftio ei chyllideb ar gyfer 2021-22?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddatgarboneiddio trafnidiaeth wrth ddyrannu'r gyllideb i'r portffolio newid hinsawdd?
A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i adolygiad annibynnol o'r fformiwla bresennol ar gyfer ariannu awdurdodau lleol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganran cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 sy'n cael ei gwario ar feysydd polisi nad ydynt wedi'u datganoli?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i'r ddarpariaeth o wasanaethau digartrefedd gan lywodraeth leol wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae'r dreth ar ail gartrefi yn cael ei weithredu?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol cyn etholiadau lleol 2022?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hybu'r sector fwyd yn Ynys Môn?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cytundeb masnach amlinellol diweddar rhwng Llywodraeth y DU ac Awstralia ar ffermwyr cig eidion a chig oen yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith anifeiliaid fferm sy'n crwydro ar les anifeiliaid?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lles anifeiliaid yng Nghymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd a lles anifeiliaid dros dymor y Senedd hon?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen datblygu gwledig yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Llywodraeth Cymru i ddileu TB mewn gwartheg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yn ystod tymor y Senedd hon?
Pryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil amaeth i Gymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cynllun Glastir?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer arallgyfeirio ar ffermydd yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella lles anifeiliaid ar ffermydd Cymru?