Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/05/2023 i'w hateb ar 23/05/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru gyda chost gwisgoedd ysgol i ddysgwyr a'u teuluoedd?
Pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ran sicrhau cydraddoldeb i bobl anabl?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y grant amddifadedd disgyblion?
Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effeithiolrwydd y system addysg o ran galluogi symudedd cymdeithasol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ansawdd dŵr afonydd Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r farchnad gig hela yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gynyddu perchnogaeth cartrefi ar draws Gorllewin De Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gadernid gweithredol rhwydwaith dŵr Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ganol trefi?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â lefelau ffosffad mewn ardaloedd cadwraeth arbennig ledled Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl sy'n byw yn Nwyrain De Cymru i ymdopi â'r argyfwng costau byw?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch ar ffordd yr A470 yn Aberconwy?