Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/04/2024 i'w hateb ar 23/04/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn ar draws byrddau iechyd yng Nghymru?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi teuluoedd yng Nghymru y mae'r sefyllfa yn Gaza yn effeithio arnynt?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pholisi iechyd o fewn y gwasanaethau tân ac achub?
A wnaiff y Prif Weinidog wneud datganiad am argaeledd deintyddiaeth y GIG yn Arfon?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru y mae'r argyfwng parhaus yn y Dwyrain Canol yn effeithio arnynt?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil Llywodraeth y DU yn dileu'r cynllun grantiau ansawdd aer lleol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio cyfraith lesddaliad?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teithio ar y rheilffyrdd yn etholaeth Caerffili?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrch frechu COVID Llywodraeth Cymru ar gyfer yr hydref nesaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn hawliau plant?
Cwnsler Cyffredinol
Sut mae'r glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn mynd i'r afael ag amlder cynyddol troseddau a gyflawnwyd gan bob aildroseddwr ifanc?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch amserlenni ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth i ddisodli Deddf Crwydraeth 1824?
Pa ystyriaeth a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i faint o is-ddeddfwriaeth y byddai ei hangen o ganlyniad i'r Bil Seilwaith (Cymru), wrth benderfynu ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru?
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio Llywodraeth y DU i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig?
Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i gydweithwyr yn y Cabinet o ran effaith y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ar drigolion Cymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch eithrio'r brenin o'r Ddeddf Amaeth (Cymru) 2023?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch sicrhau bod datblygwyr prosiectau mawr yn cyflawni eu rhwymedigaethau contractiol?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y diffiniad o fenyw at ddibenion Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn y gall ei wneud i helpu sicrhau cyfiawnder i is-bostfeistri yng Nghymru y mae sgandal TG Horizon Swyddfa'r Post yn effeithio arnynt?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru am y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau yng Nghymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch pa gamau y gall eu cymryd i helpu i sicrhau cyfiawnder i fenywod Cymru a anwyd yn y 1950au nad ydynt wedi cael eu pensiynau?