Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/03/2022 i'w hateb ar 23/03/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi

1
OQ57834 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl?

 
2
OQ57832 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd ynghylch prynu gorsaf bŵer Aberddawan?

 
3
OQ57825 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu economaidd yn ardal Mersi a'r Dyfrdwy?

 
4
OQ57817 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau?

 
5
OQ57830 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r sector twristiaeth?

 
6
OQ57836 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch annog busnesau i flaenoriaethu iechyd a lles yn y gweithle?

 
7
OQ57835 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau COVID ar fusnesau canol trefi yng Ngorllewin De Cymru?

 
8
OQ57837 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i wella ansawdd bywyd pobl wrth ddatblygu mentrau economaidd?

 
9
OQ57828 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adferiad busnesau canol trefi yn Sir Gaerfyrddin?

 
10
OQ57823 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phartneriaid i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled yn economaidd oherwydd cronfa codi'r gwastad?

 
11
OQ57846 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol prentisiaethau gradd?

 
12
OQ57852 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi mentrau bach a chanolig yn Nwyrain De Cymru?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OQ57840 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â rhestrau aros iechyd meddwl yng Nghymru?

 
2
OQ57827 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?

 
3
OQ57818 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cleifion canser i gael y driniaeth gywir?

 
4
OQ57841 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella darpariaeth ddeintyddol y GIG yng Nghasnewydd?

 
5
OQ57851 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Beth yw'r egwyddorion y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru eu dilyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid darparu triniaeth ar gyfer canserau prin?

 
6
OQ57839 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych?

 
7
OQ57849 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy i gael mynediad at ddeintydd GIG?

 
8
OQ57838 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru?

 
9
OQ57831 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gofalwyr di-dâl yng Ngogledd Cymru?

 
10
OQ57845 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu ar gyfer mynediad at ddeintyddion yn dilyn y pandemig?

 
11
OQ57821 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y marwolaethau ychwanegol ar ddechrau'r pandemig ymhlith pobl sy'n byw gyda dementia?

 
12
OQ57843 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau gofal yng Ngogledd Cymru?