Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/03/2021 i'w hateb ar 23/03/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa brofion a gynhaliwyd ar y mwd niwclear a garthwyd o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley Point, cyn cael ei ollwng yn nyfroedd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi economi leol Aberafan?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith cydbwyllgor y Gweinidogion?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi'r cyllid a ddarperir gan gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru mewn meysydd y tu allan i'w chyfrifoldebau gweithredol?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gweithredu argymhellion adroddiad Burns?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i wella iechyd meddwl yng Nghymru wrth benderfynu llacio'r cyfyngiadau symud?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i ddigwyddiadau a gwyliau wedi'u trefnu yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o helpu Cymru drwy'r pandemig a thu hwnt?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol yr undeb?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi economi Dwyrain Abertawe?