Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/02/2021 i'w hateb ar 23/02/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd meddwl brys?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailagor ysgolion?
Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau effaith pandemig COVID-19 ar fenywod yn y gweithle?
Pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i yrwyr tacsis i'w helpu drwy'r pandemig?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o fenywod a merched i astudio a dilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno'r brechlyn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i blant a phobl ifanc sy'n dysgu gartref?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o'r iaith Gymraeg yng ngharchar Berwyn yn Wrecsam?
Pa gymorth ariannol ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau yn Sir Benfro yn ystod y pandemig?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i atal llifogydd yn y Rhondda ers storm Dennis y llynedd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermio yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y posibilrwydd o lacio cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru?