Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/01/2018 i'w hateb ar 23/01/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ51601 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wella'r seilwaith yng ngogledd Cymru?

 
2
OAQ51634 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd signal ffonau symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
3
OAQ51615 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu systemau talu heb arian parod ar gyfer prydau ysgol?

 
4
OAQ51636 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i ddisodli Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd yn 2012?

 
5
OAQ51594 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir i bobl Powys gan Shropdoc?

 
6
OAQ51639 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog sefydlu uned i archwilio i sut y gall Cymru wneud defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio?

 
7
OAQ51608 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru?

 
8
OAQ51635 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynaliadwyedd gwasanaethau bysiau presennol yng Nghymru?

 
9
OAQ51585 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro cymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn i blant ag anghenion dysgu ychwanegol?

 
10
OAQ51599 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru?

 
11
OAQ51637 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i annog plant i astudio pynciau STEM?

 
12
OAQ51640 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau marw-enedigaethau yng Nghymru?

 
13
OAQ51633 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru effaith cyfyngiadau Tsieina ar fewnforio gwastraff tramor?

 
14
OAQ51588 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

 
15
OAQ51589 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2018

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o allu'r Deyrnas Gyfunol, ac felly Cymru, i fod yn rhan o'r farchnad sengl ar ôl Brexit.