Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/11/2023 i'w hateb ar 22/11/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi

1
OQ60278 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datblygiad sgiliau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
2
OQ60273 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith hawliau datblygu a ganiateir ar y sector twristiaeth?

 
3
OQ60290 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i geiswyr gwaith nad ydynt yn gallu cael mynediad at Gynllun Ailgychwyn Llywodraeth y DU gan nad ydynt wedi bod yn ddi-waith ers naw mis neu fwy?

 
4
OQ60267 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi busnesau bach dros y deuddeg mis nesaf?

 
5
OQ60270 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiad Llywodraeth Cymru â bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd?

 
6
OQ60289 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar glybiau chwaraeon ar lawr gwlad?

 
7
OQ60262 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithwyr ar ôl cau ffatrïoedd UK Windows and Doors Group yn Rhondda?

 
8
OQ60295 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau llwyddiant y porthladd rhydd Celtaidd?

 
9
OQ60301 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch y gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'r rhai sydd â stondin ym marchnad dan do Pen-y-bont ar Ogwr?

 
10
OQ60266 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyfraniad cwmnïau o Japan i economi Cymru dros y 50 mlynedd diwethaf?

 
11
OQ60299 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cysylltedd digidol yng Ngogledd Cymru?

 
12
OQ60281 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer canolbarth Cymru?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OQ60298 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau deintyddol?

 
2
OQ60286 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda COVID hir?

 
3
OQ60271 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysau'r gaeaf o fewn GIG Cymru?

 
4
OQ60302 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd pobl Islwyn?

 
5
OQ60292 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn agosach at gartrefi pobl?

 
6
OQ60276 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd therapïau modiwlaidd ar gyfer cleifion ffibrosis systig yng Nghymru yn y dyfodol?

 
7
OQ60282 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o argaeledd ac ansawdd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru?

 
8
OQ60263 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bwysigrwydd sefydliadau cymorth canser y fron yn ne Cymru a gaiff eu rhedeg gan wirfoddolwyr?

 
9
OQ60291 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i leihau amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru?

 
10
OQ60294 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud er mwyn datblygu system gofal teg i Gymru?

 
11
OQ60268 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cleifion canser ym Mhreseli Sir Benfro?

 
12
OQ60269 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2023

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran argaeledd therapïau ar gyfer plant â ffibrosis systig yn Sir Ddinbych?