Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/11/2023 i'w hateb ar 22/11/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datblygiad sgiliau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith hawliau datblygu a ganiateir ar y sector twristiaeth?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i geiswyr gwaith nad ydynt yn gallu cael mynediad at Gynllun Ailgychwyn Llywodraeth y DU gan nad ydynt wedi bod yn ddi-waith ers naw mis neu fwy?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi busnesau bach dros y deuddeg mis nesaf?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiad Llywodraeth Cymru â bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar glybiau chwaraeon ar lawr gwlad?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithwyr ar ôl cau ffatrïoedd UK Windows and Doors Group yn Rhondda?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau llwyddiant y porthladd rhydd Celtaidd?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch y gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'r rhai sydd â stondin ym marchnad dan do Pen-y-bont ar Ogwr?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyfraniad cwmnïau o Japan i economi Cymru dros y 50 mlynedd diwethaf?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cysylltedd digidol yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer canolbarth Cymru?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau deintyddol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda COVID hir?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysau'r gaeaf o fewn GIG Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd pobl Islwyn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn agosach at gartrefi pobl?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd therapïau modiwlaidd ar gyfer cleifion ffibrosis systig yng Nghymru yn y dyfodol?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o argaeledd ac ansawdd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bwysigrwydd sefydliadau cymorth canser y fron yn ne Cymru a gaiff eu rhedeg gan wirfoddolwyr?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i leihau amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru?
Pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud er mwyn datblygu system gofal teg i Gymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cleifion canser ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran argaeledd therapïau ar gyfer plant â ffibrosis systig yn Sir Ddinbych?