Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/11/2022 i'w hateb ar 22/11/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ58769 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i rwystro Nexperia BV rhag caffael Newport Wafer Fab?

 
2
OQ58767 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

A wnaiff Llywodraeth Cymru roi arian i ysgolion yng Nghymru a fydd yn cyfateb i'r arian ychwanegol y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ysgolion yn Lloegr?

 
3
OQ58729 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016?

 
4
OQ58741 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer cymunedau sy'n profi llifogydd yng Ngorllewin De Cymru?

 
5
OQ58733 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i fynd i'r afael â sefyllfaoedd lle y gwrthodir mynediad i berchnogion cŵn tywys?

 
6
OQ58765 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut bydd datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn effeithio ar gymunedau yng Nghymru?

 
7
OQ58744 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ffyrdd gwahanol o ddefnyddio'r tir ar Fferm Gilestone ar wahân i'r brydles arfaethedig ŵyl y Dyn Gwyrdd?

 
8
OQ58746 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

Sut mae blaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru wedi helpu gwasanaethau cyhoeddus i adfer o effeithiau'r pandemig?

 
9
OQ58728 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r goblygiadau i Gymru o ddatganiad yr hydref gan Ganghellor y DU?

 
10
OQ58736 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

Beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i hyrwyddo Gorllewin De Cymru fel cyrchfan i dwristiaid?

 
11
OQ58764 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r peryglon posib o ddefnyddio e-sigaréts ymysg pobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
12
OQ58768 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar economi Cymru a gaiff datganiad yr hydref Llywodraeth y DU?