Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/10/2025 i'w hateb ar 22/10/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

1
OQ63301 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau ar gyfer gwasanaeth newydd Rhwydwaith Gogledd Cymru rhwng Llandudno a Lerpwl?

 
2
OQ63277 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd a lleddfu tagfeydd ar yr A55?

 
3
OQ63272 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynlluniau i ailagor hen reilffyrdd yng Nghymru?

 
4
OQ63270 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gau Pont y Borth?

 
5
OQ63307 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Sut y mae teithwyr anabl yn cael eu diogelu wrth ddefnyddio gwasanaethau rheilffyrdd?

 
6
OQ63288 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gorsafoedd trên yn hygyrch i bawb?

 
7
OQ63279 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a chymuned y lluoedd arfog ynglŷn â'r potensial i'r Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) sicrhau cyfiawnder i'r Gwarchodlu Cymreig a oedd yn gwasanaethu ar y Syr Galahad yn ystod Rhyfel y Falklands?

 
8
OQ63306 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith arfaethedig i wella diogelwch ar yr A40 ger Rhaglan?

 
9
OQ63308 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran adolygu a diwygio trefniadau cludiant o'r cartref i'r ysgol yng Ngogledd Cymru?

 
10
OQ63285 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?

 
11
OQ63297 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gorsafoedd trên yn gwbl hygyrch?

 
12
OQ63274 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymuned y lluoedd Arfog?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

1
OQ63292 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynguhylch datganoli cyfiawnder ieuenctid?

 
2
OQ63281 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith rhaglen cydlyniant cymunedol Llywodraeth Cymru yn Nwyrain De Cymru?

 
3
OQ63302 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch cyflwyno bathodynnau glas gydol oes ar gyfer unigolion â chyflyrau gydol oes?

 
4
OQ63304 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau y bydd yr ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu sy'n dod o fewn ei phortffolio yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y Senedd hon?

 
5
OQ63309 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith costau ynni cynyddol ar lefelau tlodi tanwydd cyn y gaeaf sydd i ddod?

 
6
OQ63313 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Sut mae Lywodraeth Cymru yn helpu teuluoedd drwy’r argyfwng costau byw?

 
7
OQ63287 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran agor y ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod yn Abertawe?

 
8
OQ63294 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyhoeddi data carchardai Cymru yn unig?

 
9
OQ63278 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr amserlen ar gyfer datganoli gwasanaethau prawf i Gymru?

 
10
OQ63282 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn lleihau'r rhwystrau er mwyn cynorthwyo pobl anabl i fyw'n annibynnol?

 
11
OQ63290 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda Ysgrefennyd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gweledig i sicrhau bod cyfiawnder cymdeithasol yn cael ei hybu drwy gefnogaeth i waith paratoi ar gyfer, ac adfer wedi, llifogydd mewn cymunedau gyda lefelau uchel o dlodi?

 
12
OQ63311 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Pa gamau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi plant yng Nghymru?

Comisiwn y Senedd

1
OQ63276 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Beth yw polisi Comisiwn ar waredu hen offer TGCh neu offer TGCh sydd dros ben?

 
2
OQ63291 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ar eu hadolygiad o wasanaeth addysg y Senedd, yn benodol ar gymorthdaliadau teithio?

 
3
OQ63280 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2025

Pa ddadansoddiad y mae Comisiwn wedi'i wneud o gostau darparu dehongliad BSL o drafodion y Cyfarfod Llawn?