Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/10/2024 i'w hateb ar 22/10/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ61732 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddatrys yr argyfwng tai yng Ngwynedd?

 
2
OQ61751 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?

 
3
OQ61772 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ei chysylltiadau rhyngwladol?

 
4
OQ61764 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri taliadau tanwydd gaeaf ar bobl yn Nyffryn Clwyd?

 
5
OQ61771 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o gyhoeddi llyfrau yng Nghymru?

 
6
OQ61733 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch diogelu swyddi yn y diwydiant dur?

 
7
OQ61754 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ba gamau sy'n cael eu cymryd i rymuso menywod yn well fel rhan o'r gwaith o gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella'r gefnogaeth i iechyd menywod?

 
8
OQ61736 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae darparwyr y GIG yng Nghymru a Lloegr yn cydweithio'n agosach?

 
9
OQ61745 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau ei defnydd o chwynladdwyr glyffosad ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru neu a reolir ganddi?

 
10
OQ61737 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl prifysgolion o ran datblygu economi Cymru?

 
11
OQ61769 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru?

 
12
OQ61768 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i feithrin cysylltiadau diwydiannol da yng Nghymru?