Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/09/2026 i'w hateb ar 22/09/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64526 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd?

 
2
OQ64479 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

Beth yw blaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ceredigion Penfro ar gyfer y deuddeg mis nesaf?

 
3
OQ64508 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer digwyddiadau tywydd garw ac eithafol y gaeaf hwn?

 
4
OQ64561 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran datblygu strategaeth fwyd genedlaethol newydd?

 
5
OQ64527 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl hŷn gyda chostau byw?

 
6
OQ64553 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i sicrhau bod costau adfer safleoedd lle mae gwastraff wedi’i waredu’n anghyfreithlon yn cael eu talu gan y rhai sy’n gyfrifol, yn hytrach na chan drethdalwyr?​‌

 
7
OQ64555 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau lefelau llygredd afonydd yn Sir Gaerfyrddin?

 
8
OQ64559 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG ym Mlaenau Gwent Caerfilli Rhymni?

 
9
OQ64494 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod menywod yn gallu cael mynediad at gyfleoedd mewn sectorau twf mawr, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, ynni glân, a thechnoleg gwybodaeth?

 
10
OQ64560 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026?

 
11
OQ64562 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi trigolion Gwaelod-y-Garth y mae'r llifogydd ym mis Gorffennaf wedi effeithio arnynt?

 
12
OQ64480 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2026

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at gyfleusterau sganio PET a phrostadectomi yng ngogledd Cymru?

Manylion Buddiant yr Aelod

Mae rhywun sy'n agos at Janet yn mynd i gael prostadectomi.

Y Cwnsler Cyffredinol

1
OQ64489 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau cyfreithiol i ymyrryd mewn penderfyniadau ail-drefnu gwasanaethau a wneir gan fyrddau iechyd lleol?

 
2
OQ64502 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid?

 
3
OQ64507 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i roi i’r Llywodraeth ar amddiffyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd lle mae safbwyntiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn wahanol?

 
4
OQ64487 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â digonolrwydd cyfraith etholiadol Cymru mewn perthynas â chynnwys a gynhyrchir yn artiffisial mewn etholiadau datganoledig?

 
5
OQ64495 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o allu pobl i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol a chyfiawnder drwy gyfrwng y Gymraeg?

 
6
OQ64498 (d) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith pwysau ar ddarpariaeth cymorth cyfreithiol ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru?

 
7
OQ64506 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder?

 
8
OQ64490 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn hyrwyddo mynediad at gyfiawnder i oroeswyr treisio?

 
9
OQ64504 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch datganoli rheoleiddio porthladdoedd?

 
10
OQ64503 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli seilwaith rheilffyrdd?

 
11
OQ64491 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn hyrwyddo mynediad at gyfiawnder ar gyfer goroeswyr stelcio?

 
12
OQ64501 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli pwerau dros dreth?