Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/09/2021 i'w hateb ar 22/09/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr yng Nghymru?
Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod aelodaeth byrddau cyrff cyhoeddus yn adlewyrchu cymdeithas?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bancio i gyrff a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wrandawiadau cyn penodi ar gyfer penodiadau cyhoeddus?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu, yr heddlu, ac asiantaethau cyfiawnder troseddol ynglŷn â hiliaeth yn y system cyfiawnder?
Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad Banc Cambria? Trosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi creu cynlluniau pantri bwyd yng Nghwm Cynon?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar waith ar gyfer sefydliadau gwirfoddol yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol yn Nyffryn Clwyd?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith o gefnogi menywod sy’n ffoaduriaid o Afghanistan yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch effaith rheoliadau COVID-19 ar fynediad i addoldai?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog defnyddio technoleg mewn etholiadau yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y confensiwn cyfansoddiadol arfaethedig?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynghylch canfyddiadau diweddar adroddiad yr Ombwdsmon Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd, Women's State Pension Age: Our Findings on the Department for Work and Pensions' Communication of Changes?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch galw ceisiadau cynllunio i mewn yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sut mae'r setliad datganoli presennol yn galluogi Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau gweithwyr?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder i Gymru?
Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch adfer cymorth cyfreithiol ar gyfer cyngor cynnar ac ailasesu'r prawf moddion?
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod trefniadau cyfansoddiadol yn adlewyrchu strwythur gwleidyddol newydd y DU?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddatganoli plismona a chyfiawnder?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y gofynion cyfreithiol o ran lleoli camerâu cyflymder yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar sail gyfreithiol rheoliadau COVID-19?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch diwygio'r peirianwaith rhynglywodraethol ar lefel y DU?
Comisiwn y Senedd
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gynlluniau i alluogi pob Aelod i fynychu ystâd y Senedd i gymryd rhan ym musnes y Senedd?
Beth yw cynlluniau'r Comisiwn ar gyfer ailagor adeilad y Pierhead?
Pa gynigion sydd gan Gomisiwn y Senedd i wneud ystâd y Senedd yn garbon niwtral?
Pa waith y mae'r Comisiwn yn ei wneud i sicrhau bod ystâd y Senedd yn ystyriol o bobl â dementia?