Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/09/2020 i'w hateb ar 22/09/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ55568 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r broses ar gyfer dewis safleoedd i roi llety dros dro i ffoaduriaid sy'n aros i'w hachosion lloches gael eu clywed?

 
2
OQ55539 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

Sut yr effeithiwyd ar drafnidiaeth gyhoeddus drawsffiniol yn ystod pandemig COVID-19?

 
3
OQ55534 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am agor Ysbyty Athrofaol y Faenor?

 
4
OQ55576 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu adferiad gwyrdd?

 
5
OQ55577 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn addasu ei hymateb i COVID-19 o ystyried y profiad o'r feirws hyd yma?

 
6
OQ55579 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganfyddiadau adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, 'The Future of Regional Development and Public Investment in Wales'?

 
7
OQ55581 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Bil Marchnad Fewnol y DU ar y Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin?

 
8
OQ55545 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i liniaru effeithiau'r coronafeirws?

 
9
OQ55544 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

Pa fesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn digwydd mewn ysgolion?

 
10
OQ55580 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cymorth sydd ei angen i gynorthwyo sefydliadau diwylliannol a cherddorol Islwyn drwy'r pandemig?

 
11
OQ55558 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu rhywogaethau anifeiliaid prin yng Nghymru?

 
12
OQ55578 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atal llifogydd yng Ngorllewin De Cymru?

Cwnsler Cyffredinol

1
OQ55546 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2020

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn dilyn colli'r apêl yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys gan fenywod a anwyd yn y 1950au yr effeithiwyd arnynt gan newid oedran pensiwn y wladwriaeth o 60 i 66?

 
2
OQ55533 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2020

Beth yw dadansoddiad cyfreithiol y Cwnsler Cyffredinol o'r mesurau ym Mil Marchnad Fewnol y DU fel y maent yn berthnasol i Gymru?

 
3
OQ55549 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2020

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill ynghylch goblygiadau cyfreithiol Bil Marchnad Fewnol y DU?

 
4
OQ55531 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2020

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill ynghylch statws presennol y Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin?

 
5
OQ55547 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2020

Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyhoeddiad yr Undeb Ewropeaidd y byddai'n ei gwneud yn anghyfreithlon i gynhyrchion anifeiliaid gael eu gwerthu o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon a'r UE?

 
6
OQ55548 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2020

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch gwella hygyrchedd cymorth cyfreithiol i breswylwyr sy'n dioddef troseddau gwledig?

 
7
OQ55555 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2020

Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ar ddyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf?

 
8
OQ55556 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2020

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cael gydag awdurdodau cyhoeddus a'r sector gyfreithiol ynghylch cyfraniad y gyfraith at wireddu strategaeth Cymraeg 2050?