Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/06/2022 i'w hateb ar 22/06/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl y mae materion cladin wedi effeithio arnynt?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth coed i amgylchedd iach?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nyffryn Clwyd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y rhandiroedd cymunedol yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa waith y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar gynllunio defnydd tir i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o dir yng nghyd-destun Cymru Sero Net?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod seilwaith digonol ar waith lle cynigir datblygiadau tai newydd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cymunedau sy'n cael eu taro gan lifogydd dro ar ôl tro?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i adfywio canol trefi yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r perygl o lifogydd yn etholaeth Mynwy?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru?
Pa ymgysylltiad a gaiff y Gweinidog â sefydliadau amgylcheddol yng Nghymru cyn ac yn ystod Cynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig COP 15 ym mis Hydref 2022?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith mesuryddion talu ymlaen llaw ar denantiaid rhent?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi yn Ne Clwyd drwy raglen ysgolion yr 21ain ganrif?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am hyfforddi darpar feddygon drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgol feddygol Bangor?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y bydd technoleg yn effeithio ar addysg plant a phobl ifanc yn ystod tymor y Senedd hon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl y model consortia mewn ysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn ehangu addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi disgyblion sy'n cymryd eu arholiadau eleni o ystyried effaith COVID?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg alwedigaethol yn sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoi ar gyfer arholiadau TGAU yr haf?
Sut y mae'r Llywodraeth yn annog plant yn Nwyrain De Cymru i ddechrau addysg bellach?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi dysgwyr sydd wedi colli cyfleoedd gwirfoddoli hanfodol o ganlyniad i’r pandemig?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi lefelau cyrhaeddiad disgyblion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu prydau ysgol am ddim yng Nghymru?