Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/06/2021 i'w hateb ar 22/06/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi ym Mreseli Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau hawl pob plentyn i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailddatblygu canol trefi yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio amgylchedd naturiol Islwyn er budd ei phobl?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau lefelau llygredd aer yng Nghaerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i dyfu economi dinas-ranbarth Bae Abertawe?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion ar gyfer ffordd gyswllt Porth Gogledd Cwm Cynon?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ifanc sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant?
Pa dargedau amgylcheddol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gosod yn ystod y chweched Senedd?