Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/05/2024 i'w hateb ar 22/05/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wella'r gwasanaeth bysiau yng Nghaerdydd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o gerbydau eco-gyfeillgar ar y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau rheilffyrdd dibynadwy i gymunedau gwledig?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i sefydliadau trafnidiaeth gymunedol?
A all yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru ?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar weithredu prosiectau ffyrdd yn Sir Benfro?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynghylch yr adolygiad o derfynau cyflymder ar ffyrdd yn Islwyn?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Nwyrain De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i gefnogi teithio ar fysiau yng Nghaerdydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn gallu ymdopi â digwyddiadau cerddoriaeth mawr?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am wella diogelwch ar y ffyrdd yn y canolbarth?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyllid ar gyfer y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i amgueddfeydd lleol yn Aberconwy?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y paratoadau ar gyfer datganoli'r gwasanaeth prawf yng Nghymru?
Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl anabl?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Chyngor Celfyddydau Cymru ynghylch y pwysau cyllidebol y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn eu hwynebu?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fynediad at wasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater o stelcio?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru?
Sut y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol ymhlith pobl ifanc?
Pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fanteision gwersi cerddoriaeth i bobl ifanc dan anfantais?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r heddlu i wneud y gorau o ymgysylltu â chymunedau ehangach?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu henebion hanesyddol rhag datblygiadau ar raddfa fawr?
Comisiwn y Senedd
Sut y mae Comisiwn y Senedd yn hyrwyddo pwysigrwydd cynaliadwyedd a diogelu'r amgylchedd naturiol ar ystâd y Senedd?
Pa drafodaethau y mae Comisiwn y Senedd wedi'u cael â'r Bwrdd Taliadau ynghylch effaith y cynnydd yn y dreth gyngor ar gyllideb Comisiwn y Senedd?
Sut mae Comisiwn y Senedd yn sicrhau bod pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw yn gallu cymryd rhan weithredol yng ngwaith y Senedd?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau buddsoddi moesegol ei gronfa bensiwn?
Pa waith y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i wneud ystâd y Senedd yn ddementia-gyfeillgar?