Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/05/2019 i'w hateb ar 22/05/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

1
OAQ53915 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch sut y gellir defnyddio'r broses o gasglu ardrethi busnes a'r broses o ddyfarnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl disgresiwn er mwyn gwella'r stryd fawr yng Nghymru?

 
2
OAQ53910 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am yr opsiynau sydd ar gael i ddatrys y broblem fod perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu trethi?

 
3
OAQ53924 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y cyllid cyfalaf a ddarperir i awdurdodau lleol?

 
4
OAQ53918 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ariannu tai parod wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru?

 
5
OAQ53913 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach?

 
6
OAQ53923 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o fonitro a rheoli cyllidebau?

 
7
OAQ53901 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar gwpanau coffi tafladwy yng Nghymru?

 
8
OAQ53922 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyrannu cyllid yn y gyllideb ar gyfer llwybr du arfaethedig yr M4?

 
9
OAQ53926 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu arian cyfalaf ar gyfer Gogledd Cymru?

 
10
OAQ53884 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i brosiectau seilwaith lleol wrth ddyrannu'r gyllideb?

 
11
OAQ53895 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet ynghylch strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru?

 
12
OAQ53890 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i helpu pobl â nam ar eu synhwyrau yng Nghymru wrth ddyrannu cyllid ar gyfer cyllideb 2019-20?

Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

1
OAQ53925 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg yng Ngorllewin De Cymru?

 
2
OAQ53885 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng ngorllewin Cymru?

 
3
OAQ53914 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog chwaraeon cymunedol a gweithgareddau hamdden egnïol?

 
4
OAQ53889 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ymgysylltiad diwylliannol yng Ngogledd Cymru?

 
5
OAQ53903 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch darparu cyrsiau prifysgolion drwy gyfrwng y Gymraeg?

 
6
OAQ53908 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau Llywodraeth Cymru â Thwrci?

 
7
OAQ53892 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y Cytundeb Partneriaeth Economaidd rhwng yr UE a Japan ar Gymru?

 
8
OAQ53902 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru?

 
9
OAQ53917 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo treftadaeth lofaol fel atyniad twristiaeth yng nghymoedd y de?

 
10
OAQ53916 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r sail foesegol ar gyfer strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru?

 
11
OAQ53893 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu’r Gymraeg yn rhyngwladol?

 
12
OAQ53927 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â sefydliadau rhanbarthol Ewrop pe bai Cymru yn gadael yr UE?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ53898 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyfranogiad y Cynulliad yn Eisteddfod yr Urdd 2019?

 
2
OAQ53911 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad yn amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gosod dogfennau gerbron y Cynulliad yn y Gymraeg?

 
3
OAQ53888 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Comisiwn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio beiciau cargo ar gyfer danfoniadau i'r Cynulliad?

 
4
OAQ53912 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2019

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am hygyrchedd y Senedd i aelodau'r cyhoedd?