Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/03/2022 i'w hateb ar 22/03/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith cynnydd costau byw ar aelwydydd yn Nwyfor Meirionnydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth frechu COVID-19 Llywodraeth Cymru?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y plant mewn gofal yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canolfan iechyd newydd yng Nghaergybi?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl yn Ne Clwyd?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi gweithwyr ifanc yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni yng Ngogledd Cymru gyda chost y diwrnod ysgol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn sir Benfro?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector twristiaeth yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd yng Ngogledd Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i brosiectau treftadaeth cenedlaethol?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gwtogi cadwyni cyflenwi yng Nghymru?