Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/01/2025 i'w hateb ar 22/01/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllidebau cynghorau lleol yn y flwyddyn ariannol nesaf?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cymunedau o bobl oedrannus neu agored i niwed yn teimlo'n ddiogel yn byw ar ystadau tai cymdeithasol oedd yn hanesyddol wedi’u cadw at ddiben llety henoed, ond sydd bellach yn agored i unrhyw un heb fetio am addasrwydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl ddigartref?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cynllun Cymorth i Brynu - Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y rhaglen Cartrefi Clyd yn diwallu anghenion aelwydydd yng nghefn gwlad Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyllidebau awdurdodau lleol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y sylfaen dystiolaeth sy'n sail i safbwynt y Llywodraeth ar reolaethau rhent?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd ariannol tymor hir awdurdodau lleol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol ar draws Gorllewin De Cymru i gyrraedd eu targedau tai?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â chynghorau yn Nwyrain De Cymru i wella cyfranogiad pobl leol mewn penderfyniadau?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd cynlluniau diogelu blaendal tenantiaeth?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru am ddarpariaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol yn Nwyrain De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol?
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi prifysgolion Cymru ac yn eu diogelu i'r dyfodol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau cadw a recriwtio athrawon?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella presenoldeb yn yr ysgol?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei chynlluniau ar gyfer rhaglenni prentisiaeth iau?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella perfformiad addysgol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am y gwaith o wreiddio hanes Cymru fel elfen statudol o'r cwricwlwm ysgol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Cynllun Gweithredu Cyfleoedd AI Llywodraeth y DU ar gwricwlwm Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithredu hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol gorfodol i staff ysgolion?