Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/11/2023 i'w hateb ar 21/11/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant o deuluoedd incwm isel dros y gaeaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses ar gyfer llunio cynlluniau rhwydwaith bysiau diwygiedig y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol eu gwneud ar sail ranbarthol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am yr ymdrechion i ddenu swyddi i Barc Bryn Cegin ar gyrion Bangor?
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o gadernid y sector gofal sylfaenol yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r broses o drosglwyddo i ynni adnewyddadwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd therapïau modiwlaidd ar gyfer cleifion ffibrosis systig yng Nghymru yn y dyfodol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn monitro'r Post Brenhinol yng Nghymru yn effeithiol?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am nifer y bobl sy’n manteisio ar raglen frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol?
Beth yw strategaeth y Llywodraeth ar gyfer sicrhau diogelwch safleoedd ôl-ddiwydiannol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau nifer y cyn-garcharorion sy'n cysgu allan yng Nghymru, sydd wedi codi 210 y cant ers 2022 yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder?
A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) a gynhaliwyd yn 2021?