Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/11/2018 i'w hateb ar 21/11/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cod derbyn i ysgolion o ran disgyblion a gaiff eu geni yn yr haf?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid yr UE ar gyfer hyfforddiant sgiliau yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau costau staff asiantaeth yn y proffesiwn addysgu?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd mewn perthynas â chynyddu nifer y lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu addysg i blant a phobl ifanc yng Ngwent sydd â nam ar y synhwyrau?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o bwysigrwydd ysgolion gwledig?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan ystafelloedd dosbarth yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod disgyblion ag anghenion ychwanegol yn gallu cyrraedd eu potensial llawn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am newidiadau yn y drefn arholiadau TGAU?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn perthynas ag athrawon cyflenwi?
A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ganlyniadau TGAU yn haf 2018?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer chweched dosbarth ysgolion uwchradd?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynyddu cyfleoedd i bobl gael eu profi ar gyfer HIV, gan gynnwys o fewn lleoliadau cymunedol, drwy hunan-brofi a samplo yn y cartref?
A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am gyfraddau imiwneiddio yng ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganlyniadau canser yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd y brechlyn ffliw y gaeaf hwn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau wrth gefn ar gyfer cyflenwad parhaus o gyffuriau fferyllol i GIG Cymru os bydd Brexit yn digwydd heb fargen?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysau cynnyddol ar feddygon teulu yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am feddyginiaeth newydd sy'n cael ei dosbarthu drwy'r gronfa triniaethau newydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddeunydd pacio cyffuriau presgripsiwn yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o effeithiau niweidiol camddefnyddio alcohol?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgymryd â hwy i hyrwyddo de-ddwyrain Cymru fel lle ardderchog i ymarferwyr cyffredinol weithio a byw?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau safonau mewn cartrefi gofal a reolir yn breifat?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at feddyginiaethau newydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau deintyddol yng ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o ganllawiau drafft NICE ar reoli anymataliaeth wrinol a phrolaps organau'r pelfis drafft sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd?