Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/11/2017 i'w hateb ar 21/11/2017

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ51339 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau diweithdra yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
2
OAQ51303 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n wlad sy'n gyfeillgar i bobl â dementia?

 
3
OAQ51311 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai newydd yng Nghymru yn ystod tymor y pumed Cynulliad?

 
4
OAQ51337 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch beicwyr yng Nghymru?

 
5
OAQ51316 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y defnydd gorau o wasanaethau ataliol i helpu grwpiau sy'n agored i niwed yng Nghymru?

 
6
OAQ51306 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi rhyngwladol Llywodraeth Cymru?

 
7
OAQ51317 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r gefnogaeth i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghwm Cynon yn ystod tymor y Cynulliad hwn?

 
8
OAQ51338 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu lleol yng Ngogledd Cymru?

 
9
OAQ51304 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant amaethyddol yn Sir Benfro?

 
10
OAQ51322 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru'n eu gwneud i fynd i'r afael â gamblo cymhellol?

 
11
OAQ51321 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lwyddiant y dull rhyngasiantaethol sy'n gysylltiedig â gwaith Hyb Plant Coll Gwent?

 
12
OAQ51302 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gamblo cymhellol yng Nghymru?

 
13
OAQ51320 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wahardd ffracio yng Nghymru?

 
14
OAQ51340 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu sgiliau'r gweithlu yng ngogledd Cymru?