Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/11/2017 i'w hateb ar 21/11/2017
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau diweithdra yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n wlad sy'n gyfeillgar i bobl â dementia?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai newydd yng Nghymru yn ystod tymor y pumed Cynulliad?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch beicwyr yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y defnydd gorau o wasanaethau ataliol i helpu grwpiau sy'n agored i niwed yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi rhyngwladol Llywodraeth Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r gefnogaeth i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghwm Cynon yn ystod tymor y Cynulliad hwn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu lleol yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant amaethyddol yn Sir Benfro?
Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru'n eu gwneud i fynd i'r afael â gamblo cymhellol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lwyddiant y dull rhyngasiantaethol sy'n gysylltiedig â gwaith Hyb Plant Coll Gwent?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gamblo cymhellol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wahardd ffracio yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu sgiliau'r gweithlu yng ngogledd Cymru?