Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/10/2026 i'w hateb ar 21/10/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni

1
OQ64753 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi’u cael gyda’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol ynghylch Twf Swyddi Cymru Plws?

 
2
OQ64780 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol ar gefnogi pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen mewn marchnad lafur sy'n newid yn gyflym ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni?

 
3
OQ64761 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth yn eu cynnal gyda'r Grid Cenedlaethol ynglŷn â gosod ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot?

 
4
OQ64731 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cyfleoedd cyflogaeth ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni?

 
5
OQ64792 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau i elwa ar wariant caffael cyhoeddus?

 
6
OQ64756 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod grantiau yn y sector amddiffyn yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol?

 
7
OQ64785 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa waith y mae'r Gweinidog Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei fabwysiadu'n foesegol yng Nghymru?

 
8
OQ64770 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i gefnogi busnesau yng nghefn gwlad Cymru?

 
9
OQ64728 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa amcangyfrif y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd gwahardd defnyddio peilonau dellt dur mawr ar gyfer llinellau 11-132 kV newydd yn ei chael ar filiau ynni cartrefi?

 
10
OQ64790 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gynlluniau strategol sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a buddsoddi mewn galluoedd digidol?

 
11
OQ64739 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran trafnidiaeth ar gyfer Casnewydd ac Islwyn?

 
12
OQ64762 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau economaidd yng Nghasnewydd Islwyn?

Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

1
OQ64729 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella deilliannau addysgol dysgwyr?

 
2
OQ64724 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth addysg bellach yn Abertawe?

 
3
OQ64738 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector addysg bellach ym mlwyddyn ariannol 2027-28?

 
4
OQ64786 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn sicrhau bod cymunedau'n cael eu cynnwys mewn penderfyniadau ynghylch dyfodol ysgolion a gynhelir yr Eglwys yng Nghymru yng Ngheredigion Penfro?

 
5
OQ64722 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa asesiad y mae’r Gweinidog Cabinet wedi’i wneud o’r pwysau ariannol sy’n wynebu ysgolion gwledig yng Ngwynedd Maldwyn?

 
6
OQ64766 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgwyr sy'n oedolion sy'n ailhyfforddi ar gyfer gyrfaoedd newydd?

 
7
OQ64775 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ganfod y rhesymau pam y mae athrawon yn gadael y proffesiwn?

 
8
OQ64768 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch disgyblion?

 
9
OQ64732 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith y gostyngiad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion ym Merthyr Tudful?

 
10
OQ64764 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol i ddysgwyr anabl?

 
11
OQ64779 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ysgolion gwledig?

 
12
OQ64734 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gyllid cyfalaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu ar gyfer yr ad-drefnu arfaethedig o ysgolion Catholig yn Sir y Fflint?

Comisiwn y Senedd

1
OQ64772 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Sut mae caffael y Comisiwn yn cefnogi busnesau yng Nghymru?

 
2
OQ64771 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa fesurau diogelu y bydd y Comisiwn yn eu rhoi ar waith o ran defnyddio sbectolau clyfar ar ystad y Senedd?

 
3
OQ64743 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

A yw'r Comisiwn wedi cael cyngor annibynnol ynghylch a yw ei bolisi darlledu yn deg, yn gymesur ac yn cael ei gymhwyso'n gyson?

 
4
OQ64741 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i roi i gyflwyno hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer yr holl Aelodau o'r Senedd a'u staff cymorth?

 
5
OQ64763 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

A wnaiff y Comisiwn nodi costau'r gofod swyddfa dros dro i staff yn ystod y gwaith adnewyddu yn Nhŷ Hywel?

 
6
OQ64769 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Beth yw proses y Comisiwn ar gyfer penderfynu pa eitemau sydd ar gael i'w gwerthu i'r cyhoedd ym mannau manwerthu'r Senedd?

 
7
OQ64760 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

A wnaiff y Comisiwn gyhoeddi'r arfarniad o gostau oes gyfan ac opsiynau ar gyfer dyfodol Tŷ Hywel cyn llofnodi unrhyw gontractau rhwymol pellach?

 
8
OQ64776 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Sut mae'r Comisiwn yn ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd yn Blaenau Gwent Caerffili Rhymni i wella gwaith allgymorth a helpu pobl i ddeall beth mae'r Senedd yn ei wneud a sut mae'n effeithio ar eu bywydau?

 
9
OQ64773 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa waith allgymorth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i ymgysylltu â chymunedau o bob oed yn Sir Fynwy Torfaen?

 
10
OQ64726 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa fesurau diogelu sydd gan y Comisiwn ar waith i sicrhau bod deunyddiau addysgol, arddangosfeydd a chyhoeddiadau sydd ar gael i ymwelwyr, yn enwedig plant, yn adlewyrchu amrywiaeth o safbwyntiau gwleidyddol yn hytrach na hyrwyddo unrhyw ideoleg benodol?

 
11
OQ64757 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Pa gynnydd y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial ac offer digidol eraill i wella effeithlonrwydd y gwasanaethau a ddarperir i'r Aelodau ac i leihau costau gweinyddol?

 
12
OQ64733 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i wella cyfleoedd dysgu i'r cyhoedd ar ystad y Senedd?