Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/10/2025 i'w hateb ar 21/10/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ63310 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r effaith a gaiff cyllideb yr hydref sydd ar ddod, ar Gymru?

 
2
OQ63303 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar gyfer gweddill y Senedd hon?

 
3
OQ63315 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu sgiliau digidol?

 
4
OQ63298 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo rhoi organau?

 
5
OQ63273 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella arweiniad clinigol a darpariaeth gwasanaethau ar gyfer syndrom Tourette?

 
6
OQ63293 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r modd y mae datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn cyflawni gwelliannau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol?

 
7
OQ63316 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i greu economi gylchol?

 
8
OQ63275 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru?

 
9
OQ63317 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith cyllideb y DU, sydd ar ddod, ar Gymru?

 
10
OQ63271 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynglŷn â sefydlu proses annibynnol i ystyried cwynion yn erbyn Archwilio Cymru?

 
11
OQ63296 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd ar gefnffyrdd yn Sir Fynwy?

 
12
OQ63314 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o fenyw?