Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/10/2020 i'w hateb ar 21/10/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch y posibilrwydd o gynyddu'r gyllideb sydd ar gael yn 2020/21 i'w gwario ar yr economi yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau y mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn effeithio arnynt?
I ba raddau gall y Gweinidog sicrhau fod modd addasu cyllideb Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i gynorthwyo cynghorau sir yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiad preswyl arfaethedig Llywodraeth Cymru ar Fferm Cosmeston ym Mhenarth?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am niferoedd y tai cyfradd uwch sy'n ymddangos yn ffigurau diweddaraf y dreth trafodiadau tir?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lefel caffael lleol gan gyrff cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd ar gael i'r rheini y mae cyfyngiadau coronafeirws lleol yn effeithio arnynt?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ariannu gwaith adfer yn dilyn llifogydd yng Nghymru wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae datganiadau ariannol sy'n cyd-fynd â biliau newydd yn cymharu â'r costau gwirioneddol a geir?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch y meini prawf a ddefnyddir i gael mynediad at y gronfa ffyniant gyffredin?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gefnogi'r gronfa diogelwch adeiladau arfaethedig ar gyfer lesddeiliaid wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y dyraniad cyllid i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2021-22?
Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y disgwylir i ysgolion eu cymryd i gyfyngu ar y risg o ledaenu heintiau COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am agor canolfannau addysg awyr agored yn ystod pandemig COVID-19?
Pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn cadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol?
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd yr adolygiad o ddyfarnu canlyniadau arholiadau yn ystod haf 2020 yn cael ei gyhoeddi?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion yn sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newidiadau yn y canllawiau newydd ynghylch anfon blynyddoedd ysgol llawn adref i hunanynysu?
Sut bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi gwasanaethau addysg ddigidol eleni?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol wrth ddarparu addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, yn enwedig mewn cymunedau sy'n agos at ffiniau sirol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol drwy pandemig y coronafeirws?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r adnoddau sydd eu hangen ar brifysgolion Cymru i gefnogi addysgu a dysgu i fyfyrwyr yn ystod achosion COVID-19 ar gampysau?
Comisiwn y Senedd
Sut mae'r Comisiwn yn cefnogi staff sy'n gweithio gartref yn ystod pandemig y coronafeirws?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyfleusterau yn adeilad Tŷ Hywel?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am baratoadau i sicrhau y bydd etholiadau nesaf y Senedd fis Mai yn mynd rhagddynt yn ôl y bwriad?
Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'i bolisïau i sicrhau nad yw gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil yn digwydd i aelodau etholedig a staff?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am wella ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth ar ystad y Senedd?
Pa fesurau sydd ar waith i gefnogi staff y Comisiwn sy'n gweithio gartref yn ystod y pandemig?