Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/09/2022 i'w hateb ar 21/09/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd

1
OQ58380 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau allyriadau carbon yng Nghymru?

 
2
OQ58400 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa diogelwch adeiladau?

 
3
OQ58406 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o sut y bydd penderfyniad Arriva Cymru i gynyddu prisiau yn effeithio ar drigolion Alun a Glannau Dyfrdwy?

 
4
OQ58393 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod lleisiau cymunedau'n cael eu clywed mewn perthynas â datblygiadau cynhyrchu ynni newydd?

 
5
OQ58376 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Sut y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol a pherchnogion cartrefi preifat i ymateb i gostau ynni cynyddol?

 
6
OQ58387 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch dŵr yng Nghymru?

 
7
OQ58395 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i rewi rhenti ac atal troi allan er mwyn helpu tenantiaid drwy'r argyfwng costau byw?

 
8
OQ58392 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa bolisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sydd ar waith i ddiogelu coetiroedd hynafol?

 
9
OQ58408 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gamau y mae'r Llywodraeth am eu cymryd i helpu tenantiaid yn ystod yr argyfwng costau byw presennol?

 
10
OQ58407 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion y mae gwaith deuoli'r A465 yn ardal Hirwaun wedi effeithio arnynt?

 
11
OQ58409 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud tuag at gyrraedd ei tharged ar gyfer adeiladu cartrefi newydd yng Ngorllewin De Cymru?

 
12
OQ58391 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni pyllau nofio yn ystod yr argyfwng ynni presennol?

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

1
OQ58403 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi myfyrwyr sy'n gwneud cyrsiau prifysgol israddedig sy'n gymwys i gael cyllid y GIG?

 
2
OQ58402 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith yr argyfwng costau byw wrth ariannu ysgolion yng Ngorllewin De Cymru?

 
3
OQ58412 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd er mwyn ceisio lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgol o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol?

 
4
OQ58377 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau arholiadau 2022 yng Ngorllewin De Cymru?

 
5
OQ58411 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i ysgolion yn sgil yr argyfwng costau byw?

 
6
OQ58394 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu myfyrwyr gyda heriau costau byw?

 
7
OQ58399 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i greu'r amgylchedd dysgu gorau ar gyfer plant?

 
8
OQ58404 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cynorthwywyr addysgu yn ysgolion Cymru?

 
9
OQ58396 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn addysgu plant am bwysigrwydd natur a bioamrywiaeth?

 
10
OQ58413 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud o ran hyrwyddo cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ar draws ysgolion cynradd yn Islwyn?

 
11
OQ58383 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith chwyddiant ar gyllidebau ysgolion ar gyfer 2022-23 ?

 
12
OQ58390 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/09/2022

Pa ddarpariaeth y mae ysgolion yn ei wneud ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd?