Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/09/2021 i'w hateb ar 21/09/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ56895 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi addysg bellach yn ystod y pandemig yng Nghymru?

 
2
OQ56863 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau brys yn Sir Benfro?

 
3
OQ56850 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gwyliau gartref ar economi Cymru yn ystod tymor twristiaeth 2021?

 
4
OQ56878 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu awdurdodau lleol yng Nghymru?

 
5
OQ56855 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella diogelwch cymunedol yn Ogwr?

 
6
OQ56894 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar unrhyw gynnydd o ran cyflwyno cyflog byw o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru?

 
7
OQ56893 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn achosion COVID-19 yn etholaeth Caerffili?

 
8
OQ56871 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o bwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl ym mhob lleoliad addysgol ac ar draws lleoliadau addysgol?

 
9
OQ56868 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraniad Llywodraeth Cymru at ddatblygu rhwydweithiau ynni yng Nghymru?

 
10
OQ56897 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei chynlluniau i dorri credyd cynhwysol?

 
11
OQ56892 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros ambiwlansys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?

 
12
OQ56860 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cyfryngau yng Nghymru?