Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/06/2022 i'w hateb ar 21/06/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella y ddarpariaeth o ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol mewn lle i ddiwallu anghenion datblygu tai yng Nghaerdydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd dŵr yn nalgylch afon Wysg?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu addysg ysgol o'r radd flaenaf yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i uwchraddio'r system garthffosydd yn nalgylchoedd afonydd Gwy ac Wysg?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau i gefnogi menywod yn Arfon sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl amenedigol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo mynediad at addysg yng nghefn gwlad Conwy a Sir Ddinbych?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r risg gynyddol i les anifeiliaid o ganlyniad i'r argyfwng costau byw?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dosbarth cymdeithasol ar gyfleoedd bywyd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu mwy o dai?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o adfywio cymoedd Garw, Ogwr, Llynfi a Gilfach?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch ei gynllun datblygu lleol?