Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/05/2024 i'w hateb ar 21/05/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau gofal iechyd i breswylwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych?
A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am Gynllun Gweithredu Strategol y Llywodraeth ar gyfer Urddas Mislif?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar honiadau o camdrin sefydliadol hanesyddol mewn unedau iechyd meddwl yn y gogledd?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd menywod?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno cymorth hyfforddiant mewn swydd fel rhan o gynigion yn y dyfodol ar gyfer ei rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys ReAct Plws a Cymunedau am Waith a Mwy?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru rhag seiberymosodiadau?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar waith Cwmni Egino?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd moesegol o ddeallusrwydd artiffisial yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Chyngor Sir Ddinbych ynglŷn â meddiannaeth adeilad Marchnad y Frenhines yn y Rhyl?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan bobl fynediad at y gofal lliniarol a diwedd oes, pan fo ei angen arnynt, a lle y mae ei angen arnynt?
Sut mae byrddau iechyd yn cydweithredu â threfnwyr angladdau ar ôl marwolaeth mewn lleoliad gofal iechyd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Phrif Swyddog Meddygol Cymru ynghylch adolygiad Cass?
Cwnsler Cyffredinol
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli'r system gyfiawnder?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ynghylch argymhelliad UNESCO ar foeseg deallusrwydd artiffisial?
Pa wersi y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn credu y gellid eu dysgu o etholiadau diweddar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ynghylch sut i ymgysylltu'n well â'r cyhoedd mewn etholiadau?
Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch bwriad Llywodraeth y DU i ddefnyddio ei phwerau o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i rwystro gwydr rhag cael ei gynnwys yn y cynllun dychwelyd ernes?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar absenoldeb y diffiniad o ddyn ym Mil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Comisiwn Etholiadol ynghylch nifer y dinasyddion o Gymru y mae eu henwau ar goll o'r gofrestr etholiadol?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru?