Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/03/2023 i'w hateb ar 21/03/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad mae’r Prif Weinidog wedi'i wneud o’r effaith ar Gymru yn dilyn oedi o ddwy flynedd ar ddarn llinell rheilffordd HS2 rhwng Birmingham a Crewe?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu gweithwyr iechyd proffesiynol i weithio yng nghanolbarth Cymru?
Pa gamau brys mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran sicrhau dyfodol hir dymor safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru o gyllideb Llywodraeth y DU?
Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gynyddu'r nifer o dai newydd sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal pyllau nofio?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Cymru'n colli cyllid yr UE ar Dde Clwyd?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n monitro perfformiad GIG 111 yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gynllun meddygfa newydd Waunfawr yn Arfon?