Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/03/2018 i'w hateb ar 21/03/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n helpu cyn-filwyr yn dychwelyd i fywyd sifil?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r newidiadau i fudd-daliadau oedran gweithio a chyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y setliad llywodraeth leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth ariannol a roddir i gynghorau lleol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu eglurder ynglŷn â strwythur llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl mentrau cymdeithasol yng nghynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch darparu gwasanaethau cymorth i garcharorion o Gymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i gyn-filwyr yng Nghymru?
Pa ganllawiau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cyhoeddi i awdurdodau lleol am gydweithio â chyrff sector cyhoeddus eraill?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fonitro'r trefniadau ar gyfer dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r bylchau cyflog rhwng y rhywiau mewn awdurdodau lleol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu tai cymdeithasol yn Nhorfaen?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i annog cysylltiadau cadarnhaol rhwng pobl ifanc a'r heddlu?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwaith clirio ar ôl storm Emma ym mhorthladd Caergybi?
Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i leihau'r lefelau o wastraff plastig yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella'r system gynllunio yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses asesiadau effaith amgylcheddol sy'n berthnasol i losgydd biomas Barri?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at reoli afonydd?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynnydd sydyn mewn achosion o glefyd pydredd Alabama?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hybu ynni adnewyddadwy?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau sbwriel yn ein cymunedau?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio ystâd y sector cyhoeddus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid dros y 12 mis nesaf?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio rheoliadau adeiladu i'w gwneud yn ofynnol bod tai newydd yn cael eu hadeiladu i safonau ynni sy'n cyrraedd targedau lleihau carbon?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch is-ddeddfau rheoli dal pysgod?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ladd-dai annibynnol yng Nghymru?