Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/02/2024 i'w hateb ar 21/02/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynnwys cymunedau wrth greu coedwig genedlaethol i Gymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth llwybrau bysiau yng Ngogledd Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau bysiau yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar wasanaethau bysus yng nghymunedau gogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch priffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn ei ddarparu i amddiffyn cymunedau yn Sir y Fflint rhag llifogydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sector ynni niwclear yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei pholisïau ar gyfer gwyrddu ardaloedd trefol?
Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o'r cap ar renti yn yr Alban?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar yr amserlen ar gyfer gweithredu cynllun wedi'i dargedu i adfer morwellt?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i godi isafswm effeithlonrwydd gwres tai rhent preifat?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd toriadau posibl i'r gyllideb brentisiaethau yn ei chael ar y sector addysg bellach ar Ynys Môn?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argaeledd darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi dysgwyr yn Nwyrain De Cymru?
Pa drafodaethau mae’r Gweinidog yn eu cael efo’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglyn a sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyflogwyr wrth ddatblygu TAAU?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i sicrhau gwaddol o ran y Gymraeg yn sgil yr Eisteddfod yn dod i'r ardal eleni?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei pholisïau ar addysg blynyddoedd cynnar?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynghylch y toriadau addysg a gynigiwyd gan ei gabinet?
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi dysgwyr ôl-16 sydd ag anableddau dysgu yng Ngorllewin De Cymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i sut y byddai newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn effeithio ar dwristiaeth wledig a'r economi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ariannu ysgolion addysg arbennig?
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer gwahardd o'r ysgol yng Nghymru?