Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/01/2026 i'w hateb ar 21/01/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo'r economi gydweithredol yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith costau cynyddol ar y sector twristiaeth a lletygarwch?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau bach yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau’r Llywodraeth i gefnogi cynhyrchu ynni domestig a chymunedol fel rhan o gynlluniau effeithlonrwydd ynni?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn alinio'r ddarpariaeth sgiliau a chreu swyddi i gymunedau lleol gyda'r buddsoddiad yn ffordd Blaenau'r Cymoedd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Llywodraeth Cymru i Faes Awyr Caerdydd?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r manteision economaidd i Gymru pe bai'r DU yn ymuno ag undeb tollau gyda'r UE?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi hwb i fusnesau ar draws Gorllewin De Cymru?
Pa drafodaethau a gafodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru ynglŷn â hyrwyddo rhwydwaith gwres ar gyfer de Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau ym Mhreseli Sir Benfro?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno targedau i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol, fel sy'n bodoli yn Lloegr?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Ysbyty Tywysoges Cymru i adfer capasiti orthopedig ar ôl cwblhau'r gwaith atgyweirio toeau yn ddiweddar?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau sgrinio'r fron yn Islwyn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella cyfraddau sgrinio am ganser?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda fferyllfeydd i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau rhestrau aros y GIG yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r amser aros am driniaeth orthopedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cleifion sydd â chanser y fron yn derbyn y gefnogaeth briodol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am restrau aros fflebotomi ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynlluniau i ddatblygu Canolfan Iechyd a Lles yng Nghaergybi?
Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru yn eu dysgu o lwyddiant yr ymgyrch Blaenau Gwent yn Bwydo ar y Fron i gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron ledled Cymru?