Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/01/2025 i'w hateb ar 21/01/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod canol trefi yn hygyrch i bawb?
Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu cael efo Swyddfa'r Post am gwtogi gwasanaethau hanfodol yn Arfon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG yn Llanelli?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid canlyniadol HS2 i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd y cyhoedd ym Mhreseli Sir Benfro?
Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd acíwt i bobl yn Nwyrain De Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amgylcheddau morol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall oedolion yng Ngorllewin De Cymru gael mynediad at hyfforddiant a chymorth cyflogaeth effeithiol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau mynediad teg i ofal iechyd a dileu'r loteri cod post yng Nghymru?
Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i lysoedd teulu cyffuriau ac alcohol?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cymorth cyfreithiol sydd ar gael i bobl yng Nghymru o fewn y system fewnfudo a lloches?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i weithredu mewn cysylltiad â chemegau am byth mewn hen safleoedd diwydiannol?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw darpariaethau Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd sy'n sefyll i gael eu hethol i'r Senedd gael eu prif gyfeiriad yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith ynghylch sefyllfa menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiwn gwladol iddynt gan Lywodraeth y DU?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar y gwerthusiad o raglen beilot y llys teulu cyffuriau ac alcohol?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Cyngor Dedfrydu i sicrhau bod canllawiau dedfrydu yn adlewyrchu cyfraith Cymru yn ddigonol?