Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/11/2024 i'w hateb ar 20/11/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet esbonio pam fod yr amserlen a luniwyd yn 2023 ar gyfer penodi asiant cyflogaeth ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo wedi ei gohirio am bum mis?
A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am gysylltedd ffyrdd yn ne ddwyrain Cymru?
Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r gwelliannau i ddiogelwch cyffyrdd sydd eu hangen yng nghanolbarth Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth gwasanaethau bysiau yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Metro De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ehangu parth taliadau cosb Trafnidiaeth Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teithio llesol yng Ngogledd Caerdydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar reilffordd y Cambrian?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am fuddsoddi mewn bysiau a rheilffyrdd yn Islwyn?
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â’r argymhellion yn ymwneud â rheilffyrdd a nodwyd yn adroddiad Comisiwn Burns?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am system Metro Gogledd Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i drechu tlodi ymhlith pobl hŷn yn Nwyrain De Cymru?
Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn cydweithio ag aelodau eraill o'r Cabinet a Llywodraeth y DU i gydlynu cefnogaeth i bobl ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar?
Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn hyrwyddo cynllun canolfannau clud Llywodraeth Cymru, y dyrannwyd £1.5 miliwn ar ei gyfer?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth y DU i leddfu tlodi tanwydd?
Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y caiff undebau credyd wrth gefnogi pobl i fenthyca mewn modd moesegol?
Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a rhieni i atal y cylch o ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol a achosir gan oedolion ifanc yn Aberconwy?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pensiynwyr yn Nwyrain De Cymru?
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd rhiant sengl sy'n byw mewn tlodi yn Arfon?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu taliadau tanwydd ar bensiynwyr yng Ngorllewin De Cymru y gaeaf hwn?
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith rhyddhau carcharorion o'r carchar yn gynnar ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
Comisiwn y Senedd
Faint y mae diwygio'r Senedd yn ei gostio i'r Comisiwn?
Sut y mae'r Comisiwn yn gweithio i wella hygyrchedd trafodion y Senedd ar gyfer pobl fyddar a phobl ag amhariad ar y clyw?
Pa weithdrefnau sydd ar waith ar gyfer penderfynu pryd y caiff y Senedd ei goleuo i gefnogi gwahanol achosion?
Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i wella iechyd a ffitrwydd Aelodau a staff?
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod gan Aelodau a staff fynediad at y sianeli newyddion sydd eu hangen arnynt ar system deledu fewnol y Senedd?