Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/11/2019 i'w hateb ar 20/11/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael yn ystod y cylch cyllideb presennol i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus wrth ymdrin â thywydd garw?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran diwygio caffael cyhoeddus er mwyn galluogi mwy o fwyd ffres ar gyfer ysgolion, ysbytai a chartrefi nyrsio i gael eu caffael yn lleol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yng Nghymoedd De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r pwysau allanol sy'n effeithio ar broses Llywodraeth Cymru o bennu'r gyllideb?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwariant ataliol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllid i'r portffolio economi a thrafnidiaeth?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y model buddsoddi cydfuddiannol?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid fel rhan o'r Ail Becyn Buddsoddi Cyfalaf?
A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu'r baich trethu ar bobl ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriadau Llywodraeth Cymru parthed cyflwyno ardrethi anomestig ar brojectau ynni hydro?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ymdrechion awdurdodau lleol yn ne orllewin Cymru i gwrdd â safonau'r Gymraeg?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a gwledydd sydd â chysylltiadau cryf â'n cymunedau mwyaf amrywiol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru ar Flaenau Gwent?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu Archif Genedlaethol Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â Chymoedd De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adfer Castell Rhiw'r Perrai ger Draethen?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran cynhyrchu concordat rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch trafodaethau masnach yn y dyfodol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i chwaraeon cymunedol ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglyn â sut bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn mynd i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Comisiwn y Cynulliad
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y cysylltiad a fu rhwng y Llywydd a’r Prif Weithredwr a Syr Roderick Evans o ran y cwynion ynghylch safonau?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd strategaeth gyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am baratoadau ar gyfer ymestyn yr etholfraint cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2021?