Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/10/2021 i'w hateb ar 20/10/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd y toriad o £20 yr wythnos i gredyd cynhwysol yn ei chael ar gymunedau Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog amrywiaeth mewn cyflogaeth yn y sector cyhoeddus?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fancio cymunedol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarpariaeth canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau bancio cymunedol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa cymorth dewisol?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa gymorth a gyhoeddwyd ar gyfer aelwydydd sy'n agored i niwed dros y gaeaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb yn ne-ddwyrain Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn trigolion rhag tlodi tanwydd y gaeaf hwn?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o sut y gall dynion gymryd cyfrifoldeb yn unigol ac ar y cyd am roi terfyn ar drais gwrywaidd yn erbyn menywod?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi'r sector gwirfoddol yn Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd cynhwysiant digidol yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch yr ymgyrch i roi cydnabyddiaeth gyfreithiol i briodasau dyngarol?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector cyfreithiol i sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Weinidogion Cymru ynghylch cyfrifoldeb am domenni glo risg uwch?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y newidiadau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud i bolisi etholiadau cyn etholiad y Senedd yn 2026?
Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cymryd i sicrhau annibyniaeth Cyngor Cyfraith Cymru wrth y llywodraeth?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n cyffwrdd ar feysydd datganoledig?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymateb y llywodraeth i'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â defnyddio cardiau adnabod pleidleiswyr yng Nghymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch lefelau llygredd aer yng Nghaerdydd?
A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu deddfu i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod etholiadau'n cael eu cynnal yn deg yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar weithredu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?
Comisiwn y Senedd
Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i ymgysylltu ag ysgolion yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ynghylch ei berthynas â bwrdd pensiynau cynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd?
Pa waith y mae'r Comisiwn yn ei wneud i ymgysylltu â phobl ifanc 16 ac 17 oed am waith y Senedd, o ystyried eu bod wedi cael yr hawl i bleidleisio yn ddiweddar?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i gyflogeion y Senedd?