Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/10/2020 i'w hateb ar 20/10/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ariannol i brifysgolion?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bractisau meddygon teulu yn ystod pandemig COVID-19?
Pa gamau a gymerir i atal Bil Marchnad Fewnol y DU rhag cyfyngu ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i drawsnewid llesiant pobl yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymestyn ac ehangu'r cynllun cadw swyddi ar gyfer ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth tai Llywodraeth Cymru i blant sy'n gadael gofal?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr yng Nghymru ar hyn o bryd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atal hunanladdiad yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lefelau presennol COVID-19 yng Nghasnewydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y bobl â COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru?
Pa gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau sydd wedi eu gosod mewn ardaloedd diogelu iechyd lleol fel Bangor?
Cwnsler Cyffredinol
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch goblygiadau cyfreithiol Bil Marchnad Fewnol y DU?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill yn Llywodraeth y DU ynghylch gwneud newidiadau deddfwriaethol mewn perthynas â hawliau tramwy yng Nghymru?
Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ynghylch digonolrwydd y gyfraith i reoli ail gartrefi?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ymyrryd fel parti yn ymdrechion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i herio dyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver yn erbyn y cyngor hwnnw?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch datganoli deddfwriaethol llawn i Gymru mewn perthynas â chyfiawnder?
Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Bil Marchnad Fewnol y DU?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o beth fydd yr effaith ar gyfraith Cymru os na cheir cytundeb yn y trafodaethau ar Brexit?