Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/09/2023 i'w hateb ar 20/09/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyflenwadau glo addas ar gyfer sector rheilffyrdd treftadaeth Gogledd Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu rhaglenni cymorth rhanbarthol ar ôl Brexit?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyfraddau diweithdra cynyddol yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi bywiogrwydd economaidd y stryd fawr yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau prydles Fferm Gilestone?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch a yw cronfeydd ar ôl ymadael â'r UE yn diwallu anghenion cymunedau Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd terfynau cyflymder 20mya yn ei chael ar economi Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cynhyrchiant yn y sector busnes yng Nghymru?
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i weithwyr yn sgil cau canghennau Wilko yng Ngogledd Cymru?
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i gefnogi colegau a myfyrwyr i gymryd rhan yn rhaglen World Skills?
Sut mae'r Gweinidog yn asesu effaith ehangach deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar fusnesau bach yng Ngogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithwyr y mae'r cyhoeddiad ynghylch cau siopau Wilko yn effeithio arnynt?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflawni strategaeth cathetr ar gyfer pob ysbyty sy'n gwasanaethu pobl Aberconwy?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin ag anghydraddoldebau canser ledled Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar oblygiadau pwysau ariannol ar gynlluniau cyfalaf yn y sector iechyd yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o unedau deintyddol symudol ledled Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yn y gogledd?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ymgysylltu â grwpiau agored i niwed mewn perthynas ag e-ragnodi?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i wasanaethau offthalmig gofal sylfaenol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob meddygfa yn gallu cael gafael ar ap GIG Cymru a'u bod yn ei ddefnyddio?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwasanaethau ffrwythlondeb ac IVF sydd ar gael ar gyfer trigolion Arfon?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddarparu gwasanaethau offthalmoleg yng Nghwm Cynon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gofal strôc?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal newyddenedigol?