Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/09/2022 i'w hateb ar 20/09/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau rhagoriaeth addysgol yn Sir Ddinbych?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad sy'n benodol i Gymru i farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID mewn cartrefi gofal?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r sector darlledu yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ynglŷn ag ad-drefnu lleoliadau gorsafoedd yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i ymgysylltu â Phrif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y bydd agenda'r Prif Weinidog newydd yn effeithio ar strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd ar Ynys Môn?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn costau byw ar bobl yn Nwyrain Casnewydd?
Pa gymorth Llywodraeth Cymru mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau sy'n wynebu costau ynni uwch?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag amddiffyn hawliau gweithwyr?