Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/06/2023 i'w hateb ar 20/06/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ59722 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog merched i mewn i addysg a gyrfaoedd STEM?

 
2
OQ59694 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i ddod yn fwy ecogyfeillgar?

 
3
OQ59687 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaeth?

 
4
OQ59705 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd yr argyfwng bysiau cyhoeddus presennol yn ei chael ar ddarpariaethau'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr?

 
5
OQ59676 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r sector tai rhent preifat am weddill tymor y Senedd hon?

 
6
OQ59723 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer tai yng Ngogledd Cymru?

 
7
OQ59675 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi goroeswyr strôc?

 
8
OQ59677 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Qatar Airways ynghylch dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd?

 
9
OQ59713 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd?

 
10
OQ59709 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod poblogaethau draenogod?

 
11
OQ59674 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dyledion cinio ysgol ar ddisgyblion?

 
12
OQ59685 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

Pa gamau brys y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wrthdroi rhwystrau i adeiladu tai yng Nghymru?