Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/06/2023 i'w hateb ar 20/06/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog merched i mewn i addysg a gyrfaoedd STEM?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i ddod yn fwy ecogyfeillgar?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaeth?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd yr argyfwng bysiau cyhoeddus presennol yn ei chael ar ddarpariaethau'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r sector tai rhent preifat am weddill tymor y Senedd hon?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer tai yng Ngogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi goroeswyr strôc?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Qatar Airways ynghylch dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod poblogaethau draenogod?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dyledion cinio ysgol ar ddisgyblion?
Pa gamau brys y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wrthdroi rhwystrau i adeiladu tai yng Nghymru?