Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/05/2025 i'w hateb ar 20/05/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y ddarpariaeth addysg rhyw mewn ysgolion?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu cyfranogiad pleidleiswyr yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws Cymru fel cenedl noddfa?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Papur Gwyn Mewnfudo Llywodraeth y DU ar ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r gweithlu nyrsio yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r newid statudol diweddar o ran cyhoeddi tystysgrifau marwolaeth wedi effeithio ar y GIG yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r stryd fawr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda rhanddeiliaid perthnasol i atal beiciau trydan cyflym anghyfreithlon?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chasineb at fenywod a diwylliant 'incel' mewn bechgyn a dynion ifanc?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â chanserau y gellir eu hatal?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl anabl i mewn i gyflogaeth?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi darparwyr prentisiaethau?